P-04-349 Darpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - Caerffili

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth frys i gais Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gyllid i ariannu cynllun y mae ei ddirfawr angen i greu ysgol uwchradd Gymraeg ychwanegol erbyn 2013

 

Prif ddeisebydd: Ben Jones

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 29 Tachwedd 2011

Nifer y deisebwyr: Tua 1,200

 

Gwybodaeth ategol:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu mater brys. Yn ôl tueddiadau poblogaeth, amcangyfrifir y bydd 700 rhagor o blant yn y bwrdeistref yn dymuno cael addysg gynradd Gymraeg erbyn 2016 ac y bydd bron 1000 o blant ychwanegol yn chwilio am le mewn ysgolion cyfun erbyn 2020. Mae hyn yn golygu bod angen i’r bwrdeistref adeiladu o leiaf un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd newydd. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno cynlluniau o dan Raglen Ysgolion yr Ugeinfed Ganrif ar Hugain ac, fel awdurdodau eraill, roedd yn hynod siomedig pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd yn rhaid gohirio’r rhaglen tan 2014 a bod y meini prawf hefyd yn newid. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno cais newydd sy’n sicrhau gwerth am arian gan ei fod yn defnyddio adeiladau gwag ar safle blaenorol ysgol Sant Ilan yng Nghaerffili. 

Mae angen ateb gan y Llywodraeth ar frys gan nad oes digon o le yn yr ysgol gyfun bresennol a bydd yn rhaid gwrthod lle i ddisgyblion mor fuan â mis Medi 2013.